Symud i'r oes amlieithog
Mae dysgu ystod o ieithoedd gwahanol yn haws nac rydych chi'n ei feddwl, yn ôl Neil Madden
Petai rhywun yn dweud 'flisni me mua' wrthych chi, fyddech chi'n gwybod beth mae'n ei feddwl, neu ba iaith oedd yn cael ei siarad hyd yn oed? Gyda thua 225 o ieithoedd brodorol, mae treftadaeth ieithyddol Ewrop yn gyfoethog ac yn amrywiol; sy'n rhywbeth i'w ddathlu. Ond pa mor dda yw pobl Ewrop am ddysgu ieithoedd eu cymdogion cyfagos (a rhai ychydig yn bellach)? Mae llawer o bobl Ewrop yn meddwl mai bywyd unieithog yw'r norm. Ond mae rhwng hanner a dau draean o boblogaeth y byd yn ddwyieithog i ryw raddau, ac mae nifer sylweddol yn 'amlieithog', hynny yw, mae ganddyn nhw ryw lefel o gymhwysedd mewn ystod o ieithoedd (dealltwriaeth, a/neu ysgrifennu, a/neu siarad ac ati).
Mae amlieithedd yn nodwedd llawer mwy arferol mewn pobl nag unieithedd. Mae miliynau o bobl yn credu nad oes ganddyn nhw ddealltwriaeth o unrhyw iaith heblaw am eu mamiaith; fodd bynnag mae gan lawer ohonyn nhw ryw lefel o iaith arall. Ac eto, mae'r cyfleoedd i ddysgu iaith newydd heddiw yn fwy nag erioed.
Er mwyn pwysleisio pa mor werthfawr yw dysgu ieithoedd, sefydlodd Cyngor Ewrop Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop, a gaiff ei ddathlu bob blwyddyn ar 26 Medi. Y syniad y tu ôl i Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop yw annog amlieithedd. Nid yw hyn yn beth newydd nac yn beth anarferol. Mae'n rhan o fywyd bob dydd i lawer o bobloedd Affrica ac Asia, a dyna'r norm yn rhannau o Ewrop, yn enwedig Benelwcs a Sgandinafia, ac o gwmpas Môr y Canoldir. Ac nid yw'n golygu dychryn pobl i feddwl bod rhaid iddynt geisio cyrraedd lefel 'siaradwr brodorol'. Y nod yw gallu cyfathrebu, a chael eich deall, yn unol â'ch anghenion a'ch gofynion eich hunain. Mae lledaeniad rhyngwladol Saesneg yn ymddangos yn anorchfygol, ac mae arolygon yn awgrymu bod cael rhyw lefel o Saesneg yn flaenoriaeth gan y rhan fwyaf o ddysgwyr ieithoedd (mae un ym mhob tri yn honni y gallan nhw gynnal sgwrs yn Saesneg, yn ôl Eurobarometer).
Er hynny, ar ôl cyflawni hyn does dim rheswm i beidio â dysgu mwy o ieithoedd ar ôl Saesneg. Mae llawer o ieithoedd eraill hefyd yn werthfawr er mwyn mwynhau profiadau bywyd i'r eithaf, p'un ai ar gyfer gwaith neu deithio. Yn eironig, mae globaleiddio yn golygu y gallai gwerth Saesneg ostwng. Wrth i fwyfwy o bobl ddod yn rhugl yn 'lingua franca' heddiw, y gallu i siarad ieithoedd ychwanegol fydd yn gwneud gwahaniaeth. Ym myd gwaith ac ym myd addysg, bydd rhaid i siaradwyr Saesneg brodorol gystadlu ag ymgeiswyr sydd â'u mamiaith, Saesneg, ac, yn gynyddol, ddealltwriaeth resymol o drydedd neu bedwaredd iaith. Mae gallu ieithyddol yn cynnig mwy na manteision economaidd. Mae'n ein hannog ni i fod yn fwy agored i eraill, eu diwylliannau a'u hagweddau, ac mae'n hyrwyddo mwy o hyblygrwydd meddyliol drwy ein caniatáu ni i weithredu systemau cynrychiolaeth gwahanol a hyblygrwydd perspectif. Ni ddylem danbrisio gwerth dysgu iaith o ran rhoi dealltwriaeth i ni o bobl, diwylliant, a thraddodiadau gwledydd eraill. Mae pobl sy'n gallu cyfathrebu'n hyderus â phobl o ddiwylliannau eraill yn debygol o fod yn fwy goddefgar. A chofiwch, mae bod yn unieithog yn golygu eich bod chi'n ddibynnol ar allu ieithyddol, ac ewyllys da, eraill. Mae dysgu defnyddio iaith arall yn fwy na meithrin sgìl ddefnyddiol – mae'n cyfleu parch at hunaniaeth a diwylliannau pobl eraill, a goddefgarwch o amrywiaeth.
Bu i Gyngor Ewrop arloesi â rhaglen i alluogi pobl i fesur lefel eu rhuglder mewn iaith dramor. Nod prosiect Portffolio Iaith Ewrop yw ysgogi dysgwyr, drwy gydnabod eu hymdrechion i ehangu ac i amrywio eu sgiliau iaith ar bob lefel; a darparu cofnod o'r sgiliau maen nhw wedi'u meithrin y gellir cyfeirio ato, er enghraifft, wrth symud i lefel ddysgu uwch neu wrth edrych am swydd adre neu dramor. Yn seiliedig ar system grid, gall dysgwyr ieithoedd asesu eu galluoedd – dealltwriaeth, darllen, siarad ac ysgrifennu – a sgorio'r rhain yn unol â chwe lefel Ewropeaidd. Mae prif gyrff ardystio Ewrop wedi mabwysiadu'r safonau hyn, ynghyd â llawer o aelod-wladwriaethau a'r Undeb Ewropeaidd, yn benodol fel rhan o'i chynllun Europass, system a gynlluniwyd i wneud galluoedd unigol yn fwy tryloyw a chymaradwy ar draws aelod-wladwriaethau. Un o brif amcanion Diwrnod Ieithoedd Ewrop yw atgyfnerthu'r syniad o ddysgu ieithoedd fel proses gydol oes. Mae llawer o oedolion yn credu eu bod wedi colli (neu hyd yn oed wedi gwastraffu) cyfle i ddysgu iaith newydd yn ystod eu haddysg ffurfiol, a'i bod hi'n rhy hwyr i ailddechrau'r broses. Dydy hyn ddim yn wir. Ar draws Ewrop, mae dosbarthiadau, rhaglenni a thechnegau (o lyfrau i CD-ROMs) ar gael i wella gallu mewn iaith. Yr hyn sydd ar goll yn aml yw'r ysgogiad personol i oresgyn y 'ffactor ofn iaith'. Mae llawer o bobl yn datblygu eu sgiliau iaith ar ôl gadael yr ysgol neu'r brifysgol. Dydy hyn ddim yn peri llawer o syndod; mae dysgu ieithoedd yn yr ysgol yn cael ei weld fel gorfodaeth yn hytrach na chyfle. Dim ond pan rydyn ni'n dechrau archwilio'r byd y tu allan, boed hynny ar gyfer gwaith neu yn ein hamser hamdden, rydyn ni'n dod i ddeall gwerth ieithoedd eraill. Ac fel rhywfaint o anogaeth, mae pob iaith ychwanegol a ddysgir yn dod yn haws na'r diwethaf. Felly ar ôl goresgyn y rhwystr cyntaf hwnnw, a phan rydych chi awydd rhoi cynnig ar Hwngareg, neu Gantoneg, ewch amdani.
Os ydych chi'n dymuno datblygu eich sgiliau iaith, darllenwch fwy am Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop. Mae'r gwefannau canlynol yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol:
Digwydd bod, yr ateb i'r cwestiwn agoriadol oedd 'siarada gyda fi', yn Albaneg.
Mae Neil Madden yn ohebydd llawrydd sy'n byw yn Strasbourg