Beth yw Diwrnod Ieithoedd Ewrop?

Llwyddodd Blwyddyn Ieithoedd Ewrop 2001, a drefnwyd ar y cyd rhwng Cyngor Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd, i gynnwys miliynau o bobl a hynny mewn 45 gwlad oedd yn cymryd rhan. Roedd gweithgareddau'r diwrnod yn dathlu amrywiaeth ieithyddol yn Ewrop ac yn hybu dysgu ieithoedd.

Yn dilyn llwyddiant Blwyddyn Ieithoedd, penderfynodd Cyngor Ewrop y byddai Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn cael ei ddathlu ar 26 Medi bob blwyddyn. Amcanion cyffredinol Diwrnod Ieithoedd Ewrop yw:

  1. Tynnu sylw'r cyhoedd at bwysigrwydd dysgu ieithoedd a sicrhau rhagor o amrywiaeth o ran yr ieithoedd sy'n cael eu dysgu er mwyn cynyddu amlieithedd a dealltwriaeth ryng-ddiwylliannol;
  2. Hybu amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol cyfoethog Ewrop, y mae'n rhaid ei ddiogelu a'i feithrin;
  3. Annog dysgu ieithoedd gydol oes mewn ysgolion a'r tu hwnt, boed hynny at ddibenion astudio, ar gyfer anghenion proffesiynol, yn sgil symud neu er mwyn pleser a chyfnewid.

Ar 26 Medi 2011, nodwyd dengmlwyddiant Diwrnod Ieithoedd Ewrop sy'n cael ei ddathlu yng Nghyngor Ewrop a'i 46 aelod-wladwriaeth.

DIWRNOD I BWY YW DIWRNOD IEITHOEDD EWROP?

Mae Cyngor Ewrop yn gobeithio y bydd y Diwrnod yn cael ei ddathlu gan awdurdodau yn yr aelod-wladwriaethau yn ogystal â phartneriaid posib ar y lefelau canlynol:

  • llunwyr polisi (mesurau penodol neu drafodaethau ar faterion polisi iaith, er enghraifft);

  • y cyhoedd (codi ymwybyddiaeth am amcanion cyffredinol y Diwrnod, gan gynnwys pwysigrwydd dysgu ieithoedd gydol oes, cychwyn ar unrhyw oedran, mewn sefydliadau addysgol, yn y gwaith, ac ati);
  • y sector gwirfoddol (camau penodol gan a/neu ar gyfer mudiadau anllywodraethol, cymdeithasau, cwmnïau, ac ati).