Pam Diwrnod Ieithoedd Ewrop?

Ni fu erioed gymaint o gyfleoedd erioed i weithio neu i astudio mewn gwlad arall yn Ewrop - ond mae diffyg cymhwysedd iaith yn atal llawer o bobl rhag manteisio arnynt.

Mae globaleiddio a phatrymau perchnogi busnes yn golygu bod angen cynyddol am sgiliau ieithoedd tramor ar ddinasyddion er mwyn gweithio'n effeithiol yn eu gwledydd eu hunain. Nid yw Saesneg yn unig yn ddigon bellach.

Mae Ewrop yn gyfoeth o ieithoedd - mae yna dros 200 o ieithoedd Ewropeaidd, a siaredir llawer mwy gan ddinasyddion sydd â'u teuluoedd yn hanu o gyfandiroedd eraill. Mae'n bwysig cydnabod yr adnodd hwn, ei ddefnyddio a'i werthfawrogi.

Mae dysgu ieithoedd yn cynnig mantais i bobl hen ac ifanc - dydych chi byth rhy hen i ddysgu iaith a mwynhau'r cyfleoedd mae'n eu cynnig. Hyd yn oed os mai ychydig eiriau yn iaith y wlad rydych chi'n ymweld â hi sydd gennych chi (er enghraifft ar wyliau), mae hyn yn eich galluogi chi i wneud ffrindiau a chysylltiadau newydd.

Mae dysgu ieithoedd pobl eraill yn ffordd o'n helpu ni i ddeall ein gilydd yn well, a goresgyn ein gwahaniaethau diwylliannol.

Amcanion

Mae sgiliau iaith yn hanfodol ac yn hawl i BAWB – dyna un o brif negeseuon Diwrnod Ieithoedd Ewrop.

Yr amcan cyffredinol yw codi ymwybyddiaeth o:
  • amrywiaeth ieithyddol cyfoethog Ewrop, y mae'n rhaid ei ddiogelu a'i wella;
  • yr angen i amrywio'r ystod o ieithoedd mae pobl yn eu dysgu (i gynnwys ieithoedd llai eu defnydd), sy'n arwain at amlieithedd;
  • yr angen i bobl ddatblygu lefel o hyfedredd mewn dwy iaith neu fwy er mwyn gallu chwarae eu rhan yn llawn mewn dinasyddiaeth ddemocrataidd yn Ewrop.

... penderfynodd y Pwyllgor o Weinidogion ddatgan y caiff Diwrnod Ieithoedd Ewrop ei ddathlu ar 26 Medi bob blwyddyn. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid trefnu'r Diwrnod mewn modd datganoledig a hyblyg yn unol â dymuniadau ac adnoddau aelod-wladwriaethau, gan y byddai hyn yn eu galluogi nhw i ddiffinio eu dulliau eu hunain yn well, a bod Cyngor Ewrop yn cynnig thema gyffredin bob blwyddyn. Mae'r Pwyllgor o Weinidogion yn gwahodd yr Undeb Ewropeaidd i ymuno â Chyngor Ewrop yn y fenter hon. Y gobaith yw y bydd y Diwrnod yn cael ei ddathlu â chydweithrediad yr holl bartneriaid perthnasol.

Penderfyniad Pwyllgor o Weinidogion Cyngor Ewrop, Strasbourg (cyfarfod rhif 776 – 6 Rhagfyr 2001)