Sut i gymryd rhan?

Gallwch ddathlu Diwrnod Ieithoedd Ewrop mewn llawer o ffyrdd, yn dibynnu ar yr amser a'r adnoddau sydd ar gael i chi.

Mae'r rhain yn amrywio o bethau syml (fel trefnu noson ffilmiau yn dangos ffilmiau mewn gwahanol ieithoedd, neu gaffi iaith yn gweini bwyd arbennig o ystod o wledydd), i'r pethau sy'n gofyn am fwy o adnoddau (fel digwyddiadau i'r cyfryngau ar raddfa fawr). Mae'r Calendr digwyddiadau yn rhestru'r holl ddigwyddiadau sydd wedi'u cyhoeddi ar wefan Diwrnod Ieithoedd Ewrop ers 2002, ac mae'n ffynhonnell gyfoethog o syniadau. Mae trawstoriad hefyd ar gael ar y dudalen hon o ysbrydoliaeth!

Yn ddigwyddiad mawr neu fach, mae'r egwyddor yn syml...
  1. meddwl am syniad da (digwyddiad fel parti, twrnamaint, swper)
  2. ei drefnu, ei hyrwyddo
  3. ei osod yn ein cronfa ddata, a
  4. cynnal y digwyddiad!

Trefnu Diwrnod Ieithoedd Ewrop
Nid yw Cyngor Ewrop yn rhoi cyfarwyddiadau (na chefnogaeth ariannol) ar gyfer trefnu digwyddiadau. Rhoddir rhwydd hynt i aelod-wladwriaethau a phartneriaid posib drefnu gweithgareddau fel maen nhw'n ei ddymuno, gyda'r nod o sicrhau cymaint o hyblygrwydd â phosib wrth gynnal y Diwrnod.

Cydlynwyr Cenedlaethol
Yn y rhan fwyaf o wledydd, mae unigolyn yn cymryd rôl wirfoddol o gydlynu rhwng trefnwyr digwyddiadau a Chyngor Ewrop. Mae hyn hefyd yn cynnwys rhannu gwybodaeth a deunyddiau hyrwyddo a gynhyrchir gan y Cyngor ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol.   

Rôl Cyngor Ewrop
Cyngor Ewrop sefydlodd y Diwrnod, a bob blwyddyn mae'n rhannu posteri, sticeri a deunyddiau hyrwyddo eraill sy'n dangos amrywiaeth ieithoedd Ewrop. Caiff y deunyddiau eu dosbarthu'n ganolog i Gydlynwyr Cenedlaethol, sy'n gyfrifol am eu dosbarthu'n genedlaethol, yn benodol i fodloni anghenion trefnwyr digwyddiadau Diwrnod Ieithoedd Ewrop.