Pwy sy'n gallu cymryd rhan?


Gall PAWB gymryd rhan mewn rhyw ffordd yn Niwrnod Ieithoedd Ewrop

Boed fel unigolyn neu mewn grŵp, mewn sefydliad (ysgol neu gymdeithas) neu ymhlith ffrindiau, gall pobl o bob oed ddod yn rhan o'r Diwrnod. Gall pawb gyfrannu at lwyddiant Diwrnod Ieithoedd Ewrop - un ai drwy gymryd rhan yn y gweithgareddau a drefnir, neu drwy ddod ynghyd ag eraill i drefnu digwyddiadau (peidiwch ag anghofio gosod manylion y digwyddiad yng nghalendr digwyddiadau Diwrnod Ieithoedd Ewrop). Mae rhai posibiliadau wedi'u rhestru isod:

DISGYBLION/MYFYRWYR: Er mwyn dysgu mwy am amrywiaeth iaith, gall disgyblion a myfyrwyr gymryd rhan yn ein gweithgareddau hwyliog ar-lein. Gyda'n gemau a'n cwisiau, gallwch gael blas ar wahanol ieithoedd Ewrop. Os ydych chi'n hoffi cerddoriaeth, beth am drefnu digwyddiad cerddorol i hyrwyddo'r amrywiaeth o ieithoedd a genres cerddoriaeth yn Ewrop? Gallwch hyd yn oed rannu perfformiadau o'r fath gydag eraill drwy ein gwefan.

ATHRAWON: Ar gyfer athrawon ieithoedd, neu athrawon pynciau eraill wrth gwrs, mae'r Diwrnod yn cynnig llawer o bosibiliadau: cyfle i ddysgu am ddiwylliannau, traddodiadau ac ieithoedd eraill nad ydyn nhw i'w clywed yn yr ystafell ddosbarth fel arfer; y cyfle i hyrwyddo talentau creadigol disgyblion drwy gynnal dramâu yn arddangos yr ieithoedd gallan nhw eu siarad, sefydlu caffis iaith, amlygu'r ieithoedd a siaredir ar draws yr ysgol...

PRIFYSGOLION/YSGOLION: Mae Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn gyfle gwych i edrych ar y brifysgol/ysgol a'r ddinas o'i chwmpas fel lle y mae pobl o gefndiroedd amrywiol yn cwrdd, yn byw ac yn rhyngweithio, a lle mae ieithoedd yn ffynnu. Beth am sefydlu grwpiau trafod rhwng pobl o wahanol gefndiroedd iaith? Mae rhwydweithiau cymdeithasol ar-lein yn ffordd dda o greu rhyngweithiadau o'r fath, a gallwch hyd yn oed hoffi Diwrnod Ieithoedd Ewrop ar Facebook. Gallai prifysgolion neu ysgolion sy'n ffinio â gwledydd eraill drefnu tripiau i gwrdd â myfyrwyr o ochr arall i'r ffin. Gallai ysgolion hefyd gynnal cystadlaethau ar gyfer eu disgyblion sy'n canolbwyntio ar ddysgu a gwella sgiliau iaith.

Gall PAWB ddod yn rhan o Ddiwrnod Ieithoedd Ewrop mewn gwirionedd, hyd yn oed drwy wahodd cymdogion o ddiwylliannau eraill draw am baned, neu addurno'r tŷ â phosteri a sticeri Diwrnod Ieithoedd Ewrop. Mae'n bosib na ddewch chi'n amlieithog mewn un diwrnod, ond mae'n debygol o ehangu'ch gorwelion, ac mae'n sicr am fod yn brofiad pleserus a boddhaus!