Record y byd Diwrnod Ieithoedd Ewrop:
Pam ydych chi'n caru iaith (benodol)?

Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi y derbyniom 2742 clip fideo anhygoel o bob cwr o Ewrop a'r byd yn ein hymgais record y byd Diwrnod Ieithoedd Ewrop. Mae rhai rhesymau hynod ddiddorol pam fod pobl yn caru iaith benodol – gwyliwch y fideos ar y dudalen hon i'w clywed!
Gan nad oes ymarfer o'r fath wedi'i gynnal o'r blaen, cyhyd ag y gwyddom ni – rydyn ni'n datgan yn falch ein bod ni wedi sefydlu record byd newydd, gyda'r casgliad mwyaf erioed o fideos ar thema ieithoedd. CHI wnaeth hyn yn bosib!

DIOLCH i bawb oedd yn rhan o'r fenter hon – dangosoch chi i ni eich bod chi'n rhannu'n cariad ni at ieithoedd!

Image: WorldArtsMe

Canfod eich fideo

Mae 17 ffilm dros 11 awr o hyd i gyd. Er mwyn dod o hyd i'ch fideo chi edrychwch ar y ddogfen pdf isod am enw eich ffeil chi. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys maint y ffeil a'r unigolyn wnaeth uwchlwytho'r ffeil, os oedd ar gael.

Ar ddiwedd y rhestr, byddwch chi hefyd yn dod o hyd i fideos nad oedd modd eu hystyried.

Rhestr o'r holl fideos

Editors' choice

All videos

Video 1 Video 2 Video 3 Video 4 Video 5 Video 6 Video 7 Video 8 Video 9 Video 10 Video 11 Video 12 Video 13 Video 14 Video 15 Video 16 Video 17