Pleidleisiwch dros ddigwyddiad mwyaf arloesol eleni!
I ychwanegu rhagor o gyffro i'r Diwrnod, gall unrhyw un sy'n ymweld â'r wefan bleidleisio dros yr hyn maen nhw'n ei feddwl yw'r digwyddiad Diwrnod Ieithoedd Ewrop mwyaf arloesol. Gall hyn fod o achos ei greadigrwydd, pa mor hawdd yw ei efelychu, neu gan ei fod wir yn cynrychioli ysbryd y Diwrnod. Bydd modd pleidleisio am gyfnod o fis o 20 Medi – 20 Hydref, a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Bydd gwobr fechan i drefnydd y digwyddiad sy'n derbyn y mwyaf o bleidleisiau.