Ffeithiau am ieithoedd

Oeddech chi'n gwybod...?

01 Mae rhwng 6000 a 7000 o ieithoedd yn y byd - sy'n cael eu siarad gan saith biliwn o bobl wedi'u rhannu i 189 gwladwriaeth annibynnol.

02 Mae tua 225 o ieithoedd brodorol yn Ewrop - tua 3% o gyfanswm ieithoedd y byd.

03 Siaredir mwyafrif ieithoedd y byd yn Asia ac Affrica.
 

04 Mae tua hanner poblogaeth y byd yn ddwyieithog neu'n amlieithog, hynny yw maen nhw'n siarad dwy iaith neu fwy.

05 Mae pobl Ewrop yn dod ar draws mwy a mwy o ieithoedd tramor yn eu bywyd bob dydd. Mae angen ennyn rhagor o ddiddordeb mewn ieithoedd ymhlith pobl Ewrop.

06 Mae gan lawer o ieithoedd 50,000 o eiriau neu fwy, ond fel arfer dim ond ffracsiwn o'r eirfa gyfan mae unigolion yn ei wybod fel arfer: mae pobl yn defnyddio'r un ychydig gannoedd o eiriau mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd.

07 Mae ieithoedd mewn cyswllt â'i gilydd o hyd, ac yn effeithio ar ei gilydd mewn llawer o ffyrdd: Mae Saesneg wedi benthyg geiriau ac ymadroddion gan lawer o ieithoedd eraill yn y gorffennol, ac mae ieithoedd Ewrop nawr yn benthyg llawer o eiriau gan y Saesneg.

08 Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, mae babi yn yngan ystod eang o synau lleisiol; ar ôl tua blwyddyn, mae'n ynganu'r geiriau dealladwy cyntaf; pan fydd tua thair blwydd oed, mae'n ffurfio brawddegau cymhleth; erbyn iddo fod yn bum mlwydd oed, mae gan blentyn rai miloedd o eiriau.

09 Y famiaith yw'r iaith mae unigolyn yn ei hadnabod orau ac yn ei defnyddio fwyaf fel arfer. Ond mae'r fath beth â "phobl hollol ddwyieithog" sy'n siarad dwy iaith yr un mor dda â'i gilydd. Fel arfer, fodd bynnag, nid yw pobl ddwyieithog yn gallu'r ddwy iaith yn gwbl gyfartal.

10 Mae gan ddwyieithrwydd lawer o fanteision: mae'n golygu bod dysgu ieithoedd ychwanegol yn haws, mae'n gwella'r broses o feddwl ac yn meithrin cysylltiadau â phobl eraill a'u diwylliannau nhw.

11 Mae gan ddwyieithrwydd ac amlieithrwydd fanteision economaidd hefyd: mae mwy o swyddi ar gael i bobl sy'n siarad mwy nag un iaith, ac mae gan gwmnïau amlieithog mwy o fantais gystadleuol na rhai unieithog.

12 Mae ieithoedd yn perthyn i'w gilydd fel aelodau teulu. Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop yn perthyn i'r teulu mawr Indo-Ewropeaidd.

13 Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop yn perthyn i dri grŵp eang: Germaneg, Romáwns a Slafeg.

14 Mae teulu Germaneg yn cynnwys Daneg, Norwyeg, Swedeg, Islandeg, Almaeneg, Iseldireg, Saesneg ac Iddeweg, ymhlith eraill.

15 Mae'r ieithoedd Romáwns yn cynnwys Eidaleg, Ffrangeg, Sbaeneg, Portiwgaleg a Romaneg, ymhlith eraill.

16 Mae ieithoedd Slafeg yn cynnwys Rwsieg, Wcraneg, Belarwseg, Pwyleg, Tsieceg, Slofaceg, Slofeneg, Serbeg, Croateg, Macedoneg, Bwlgareg ac eraill.

17 Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop yn defnyddio'r wyddor Ladin. Mae rhai ieithoedd Slafeg yn defnyddio'r wyddor Syrilig. Mae gan Groegeg, Armeneg, Georgeg ac Iddeweg oll eu gwyddor eu hunain.

18 Mae gan y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol – ac mae gan rai o'r rhain statws swyddogol.

19 O'r ieithoedd nad ydyn nhw'n rhai Ewropeaidd, Arabeg, Tsieinëeg a Hindi yw'r ieithoedd a ddefnyddir ar dir Ewrop fwyaf, ac mae gan bob un ei system ysgrifennu ei hun.

20 Rwsia (gyda 148 miliwn o drigolion) sydd â'r nifer fwyaf o ieithoedd a siaredir ar ei thir o bell ffordd: o 130 i 200 yn dibynnu ar y meini prawf.

21 O achos y mewnlifiad o ymfudwyr a ffoaduriaid, mae Ewrop wedi dod yn gynyddol amlieithog. Yn Llundain yn unig siaredir tua 300 o ieithoedd (Arabeg, Twrceg, Cwrdeg, Berbereg, Hindi, Pwnjabeg ac yn y blaen).

Nawr eich bod chi wedi dysgu cymaint - beth am roi cynnig ar y cwis ieithoedd?