Ffeithiau am iaith arwyddion

01

Caiff y gair « byddar » ei ysgrifennu â phriflythyren weithiau, a llythyren fach droeon eraill. Oes rheswm penodol dros hyn?

Ym maes Astudiaethau Byddar, mae defnyddio priflythyren yn y gair 'Byddar' yn dynodi aelodaeth o gymuned Fyddar, a defnydd o iaith arwyddion frodorol fel prif iaith neu iaith o ddewis. Mae defnyddio llythyren gyntaf fach yn y gair 'byddar' yn cyfeirio at bobl sy'n colli eu clyw yn feddygol, ond nad ydyn nhw'n ystyried eu hunain yn aelod o'r gymuned Fyddar, ac nad ydyn nhw o bosib yn defnyddio iaith arwyddion frodorol. (gweler “Signed Languages in Education in Europe – a preliminary exploration”, Lorraine LEESON, Dulyn. Cyngor Ewrop. 2006)

02

A yw pob defnyddiwr iaith arwyddion yn fyddar neu â nam ar eu clyw?

Nac ydyn. Mae plant pobl fyddar hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio iaith arwyddion yn aml; iaith arwyddion frodorol eu rhieni bydd eu hiaith gyntaf, cyn unrhyw ieithoedd llafar. Yn ogystal, mae rhieni a brodyr a chwiorydd plant Byddar yn dysgu sut i ddefnyddio iaith arwyddion er mwyn hwyluso cyfathrebu. Mae llawer o bobl hefyd yn dysgu iaith arwyddion yn eu hamser hamdden gan fod ganddyn nhw ffrind Byddar, gan eu bod eisiau dod yn gyfieithwyr, neu gan fod diddordeb ganddyn nhw yn yr iaith.

03

Oes un iaith arwyddion fyd-eang?

Nac oes. Mae llawer o amrywiaethau, ac weithiau mae mwy nag un iaith arwyddion mewn un wlad, fel ieithoedd llafar. Er enghraifft, mae dwy iaith arwyddion yng Ngwlad Belg (Iaith Arwyddion Ffrangeg Belgeg ac Iaith Arwyddion Fflemineg), neu yn Sbaen (Iaith Arwyddion Sbaeneg a Iaith Arwyddion Catalaneg). Hefyd, mae iaith arwyddion wahanol mewn gwledydd sydd â'r un iaith lafar, fel gwledydd Prydain ac Iwerddon. Mae hyn oherwydd datblygiadau hanesyddol sy'n wahanol i'r rhai a brofwyd mewn ieithoedd a siaredir.

04

Oes 'teuluoedd' ymhlith ieithoedd arwyddion (fel ieithoedd llafar - Romáwns a Slafoneg er enghraifft), a fyddai'n caniatáu pobl i ddeall ieithoedd arwyddion ei gilydd?

Oes, mae teuluoedd iaith oddi mewn ieithoedd arwyddion. Er enghraifft, mae Iaith Arwyddion Awstreg neu Iaith Arwyddion Iseldireg yn haws eu deall gan rywun sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Almaeneg na rhywun sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Eidaleg. I'r gwrthwyneb i hyn, mae Iaith Arwyddion Prydain yn wahanol iawn i bob iaith arwyddion yn Ewrop, ac i Iaith Arwyddion Awstralia yn unig mae hi'n perthyn.

05

Oes ffurf ryngwladol ar iaith arwyddion, y gellid ei hystyried yn 'lingua franca'?

Mae system gyfathrebu ryngwladol a gaiff ei galw'n Iaith Arwyddion Ryngwladol. Caiff ei defnyddio'n aml mewn cynadleddau rhyngwladol a mewn cyfarfodydd gyda chyfranogwyr nad ydyn nhw'n rhannu un iaith arwyddion gyffredin. Caiff yr iaith gynorthwyol hon ei defnyddio fel lingua franca ymhlith defnyddwyr iaith arwyddion o wahanol wledydd, a mewn sgyrsiau ar hap. Fodd bynnag, ni ellir ei chymharu ag Esperanto, gan nad yw'r Iaith Arwyddion Ryngwladol yn iaith o'r fath. Nid oes ganddi ramadeg na geirfa sefydlog, ac mae'n dibynnu'n helaeth ar ystumiau, sydd ond ag ystyr yn y cyd-destun penodol hwnnw, ac mae'n defnyddio geirfa o iaith frodorol yr unigolyn hwnnw. Mae hyn yn golygu y caiff yr arwyddion eu gwneud yn glir, ac yn aml defnyddir mwy nag un arwydd i ddisgrifio cysyniad er mwyn sicrhau dealltwriaeth.

06

Ai cynrychiolaeth o eiriau a siaredir/ysgrifennir yw ieithoedd arwyddion?

Nage. Maen nhw'n ieithoedd cyfan gyda'u gramadeg a'u cystrawen eu hunain.  Fel ieithoedd eraill, mae idiomau sy'n anodd eu cyfieithu a geiriau/arwyddion nad oes cyfieithiad llythrennol i'w cael mewn iaith (arwyddion) arall.

07

Oes ffurf wedi'i safoni o arwyddo ym mhob iaith, ac oes 'tafodieithoedd' gwahanol fel sydd mewn ieithoedd llafar?

Bu ymdrech i safoni ieithoedd arwyddion ar draws Ewrop. Fel ieithoedd llafar, nid yw'r ymdrechion hyn wedi bod yn llwyddiannus, ac mae tafodieithoedd yn dal i fodoli. Mae hyn hefyd gan fod ysgolion Byddar wedi'u lleoli mewn rhannau gwahanol o wledydd, gan ddefnyddio arwyddion penodol y mae'r plant yna'n eu lledaenu. Yn aml, mae arwyddion ar gyfer diwrnodau'r wythnos a'r misoedd yn amrywio, ynghyd ag arwyddion ar gyfer lliwiau.

08

Faint o bobl sy'n defnyddio ieithoedd arwyddion yn aelod-wladwriaethau Cyngor Ewrop?

Mae hyn yn anodd i'w ateb. Nid oes ystadegau dibynadwy ym mhob aelod-wladwriaeth. Mae amcangyfrif o 750,000 o ddefnyddwyr iaith arwyddion Byddar yn yr Undeb Ewropeaidd. Ar gyfartaledd, mae pobl Fyddar sy'n defnyddio iaith arwyddion yn cyfrif am oddeutu 0.1% o boblogaeth gyfan unrhyw wlad. Nid yw hyn yn cynnwys pobl sy'n dysgu iaith arwyddion fel ail iaith neu blant pobl Byddar neu aelodau eraill o'r teulu. Er enghraifft, amcangyfrifir bod 5,000 o ddefnyddwyr ieithoedd arwyddion yn y Ffindir ; 100,000 yn Ffrainc a 20-30,000 yn Rwmania.

09

A yw ieithoedd arwyddion wedi bod yn gysylltiedig â Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop ar gyfer Ieithoedd: Dysgu, Addysgu, Asesu (CEFR) Cyngor Ewrop sydd ar gael mewn dros 35 o ieithoedd?

Bu i Weinyddiaeth Addysg Ffrainc baratoi addasiad o rai darnau o'r CEFR (fersiwn Ffrangeg) ar gyfer Iaith Arwyddion Ffrangeg, lefelau cyfeirio cyffredin a disgrifyddion yn benodol.

10

Oes ffordd o drawsgrifio ieithoedd arwyddion?

Oes, gellir trawsgrifio ieithoedd arwyddion mewn llawer o ffyrdd. Nid oes un ffordd wedi'i safoni o drawsgrifio ieithoedd arwyddion, ond defnyddir System Nodiant Hamburg (HamNoSys) yn aml, sy'n defnyddio symbolau penodol i ddisgrifio siapau'r llaw a symudiad yr arwydd. System arall sy'n gweithio mewn ffordd debyg iawn yw system 'SignWriting'. Yn ogystal, defnyddir 'glosio' yn aml, lle caiff arwyddion eu cyfieithu i eiriau mewn priflythrennau, yn dangos arwyddion wyneb a gwybodaeth ramadegol ar ben y gair neu fel rhagddodiaid. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: http://www.signwriting.org/, neu http://assets.cambridge.org/97805216/37183/sample/9780521637183web.pdf (pennod ar ‘gonfensiynau’), neu http://www.sign-lang.uni-hamburg.de/projects/hamnosys.html.

11

Ble galla i ddod o hyd i fwy o wybodaeth am ieithoedd arwyddion, a sut galla i ddysgu un?

Y ffordd orau yw cysylltu â'r Gymdeithas Fyddar Genedlaethol i ddarganfod ble cynhelir dosbarthiadau iaith arwyddion, ac i ddysgu mwy am yr iaith arwyddion genedlaethol. Mae gwybodaeth am yr holl Gymdeithasau Byddar yn yr Undeb Ewropeaidd ar gael ar-lein ar wefan Undeb Ewropeaidd y Byddar (EUD): http://eud.eu/EUD_Members-i-159.html (map). Mae rhagor o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan Ffederasiwn Pobl Fyddar y Byd: http://www.wfdeaf.org/members/ordinary-members/list-of-members.

 

Hoffem ddiolch i Mark Wheatley ac Annika Pabsch o Undeb Ewropeaidd Pobl Fyddar (EUD - www.eud.eu) am eu cyfraniad sylweddol i'r adran hon.