Rôl cydlynwyr cenedlaethol
Er mwyn cydlynu'r gweithgareddau a drefnir ar lefel genedlaethol, mae Cyngor Ewrop yn gofyn i wledydd sy'n cymryd rhan, enwebu Unigolion Cydlynu Cenedlaethol ar gyfer Diwrnod Ieithoedd Ewrop. Swyddogaeth Cydlynydd yw gweithredu fel lluosydd i sefydliadau, ysgolion a chymdeithasau, gan gylchredeg:
- gwybodaeth a geir gan Gyngor Ewrop (er enghraifft datganiad i'r wasg y Cyngor ar y Diwrnod, y gwahoddir Cydlynwyr i'w chyfieithu i ieithoedd cenedlaethol/lleol, a diweddariadau ar y wefan);
- deunyddiau hyrwyddo - posteri, sticeri ac ati a ddarperir gan Gyngor Ewrop bob blwyddyn mewn niferoedd sylweddol i drefnwyr digwyddiadau.
Cyhyd ag y bo'n bosib, anogir y Cydlynydd i gynnal gwaith hyrwyddo ar gyfer y Diwrnod ar lefel genedlaethol/rhanbarthol drwy'r wasg, yn benodol drwy dynnu sylw at gyfeiriad gwefan Diwrnod Ieithoedd Ewrop, ac adrodd i'r Cyngor ar ddathliadau'r wlad ar y Diwrnod.
Mae rhai Cydlynwyr wedi sefydlu gwefan genedlaethol Diwrnod Ieithoedd Ewrop o achos nifer y digwyddiadau a drefnir yn eu gwlad.
Mae Cydlynwyr Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn gweithio'n wirfoddol, ac mae Cyngor Ewrop yn cydnabod eu cyfraniad pwysig ac yn ddiolchgar iawn amdano.
Gwledydd sydd heb Gydlynwyr Cenedlaethol ar hyn o bryd...
Fel y nodir ar y map, does gan rai gwledydd ddim Cydlynwyr Cenedlaethol ar hyn o bryd.
Gall y Cydlynydd fod yn unigolyn neu'n strwythur sydd eisoes yn bodoli ac sydd, yn ddelfrydol, eisoes mewn cyswllt â Chyngor Ewrop - er nad yw hyn yn hanfodol.
Gwahoddir unrhyw strwythurau (canolfannau / cymdeithasau / unedau gweinyddol ac ati) a fyddai'n fodlon gweithredu fel Cydlynydd rhwng eu gwlad a Chyngor Ewrop i gysylltu un ai â'u hawdurdodau cenedlaethol neu Gyngor Ewrop.