Dathlu amrywiaeth ieithyddol
Sefyllfa'r bobl
Mae gan ein planed dros saith biliwn o bobl sy'n siarad rhwng 6000 a 7000 o ieithoedd gwahanol. Mae gan rai ieithoedd gannoedd o filiynau o siaradwyr, fel Saesneg neu Tsieinëeg, ond dim ond rhai miloedd, neu lond llaw, sy'n siarad y rhan fwyaf o ieithoedd. Yn wir, caiff 96% o ieithoedd y byd eu siarad gan ddim ond 4% o'r bobl. Yn aml mae pobl Ewrop yn teimlo bod gan eu cyfandir nifer eithriadol o ieithoedd, yn enwedig o'i gymharu â Gogledd America neu Awstralia. Ond eto, dim ond 3% o gyfanswm y byd, sef rhyw 225 o ieithoedd, sy'n ieithoedd cynhenid i Ewrop. Caiff y rhan fwyaf o ieithoedd y byd eu siarad mewn ardal eang ar bob ochr i'r Cyhydedd - yn Ne Ddwyrain Asia, India, Affrica a De America.
Mae llawer o bobl Ewrop yn meddwl mai bywyd unieithog yw'r norm. Ond mae rhwng hanner a dau draean o boblogaeth y byd yn ddwyieithog i ryw raddau, ac mae nifer sylweddol yn amlieithog. Mae amlieithedd yn llawer mwy cyffredin mewn pobl nag unieithedd. Mae amrywiaeth ieithoedd a diwylliannau, fel yn achos bioamrywiaeth, yn cael ei weld fwyfwy fel peth da a hyfryd. Mae gan bob iaith ei ffordd ei hun o weld y byd, ac mae'n gynnyrch sy'n deillio o'i hanes penodol ei hun. Mae gan bob iaith ei hunaniaeth a'i gwerth unigol, ac mae pob un yr un mor ddefnyddiol fel dull o fynegiant i'r bobl sy'n eu defnyddio. Rydyn ni'n gwybod drwy gymharu'r cyflymdra mae plant yn dysgu siarad, nad oes un iaith sy'n anoddach nag unrhyw iaith arall yn y bôn.
Strwythur iaith
System fympwyol o synau a symbolau yw iaith, a ddefnyddir at lawer o ddibenion gan grŵp o bobl, yn bennaf i gyfathrebu â'i gilydd, i fynegi hunaniaeth ddiwylliannol, i gyfleu perthnasau cymdeithasol, ac i fod yn ffynhonnell o bleser (llenyddiaeth er enghraifft). Mae ieithoedd yn aml yn wahanol i'w gilydd o ran eu synau, eu gramadeg, eu geirfa, a'u patrymau o fynegi. Ond mae pob iaith yn endid hynod gymhleth. Mae ieithoedd yn amrywio yn y nifer o lafariaid a chytseiniaid sydd ganddyn nhw, o lai na dwsin i dros gant. Mae ieithoedd Ewropeaidd yn dueddol o fod tua chanol yr ystod – o oddeutu 25 o synau o'r fath (e.e. Sbaeneg) i dros 60 (e.e. Gwyddeleg). Mae gwyddor iaith yn adlewyrchu'r synau hyn i raddau amrywiol o ran cywirdeb: mae gwyddor rhai ieithoedd (e.e. Cymraeg) yn rheolaidd iawn yn y ffordd maen nhw'n symboleiddio synau; mae eraill (e.e. Saesneg) yn afreolaidd iawn. O ran gramadeg, mae gan bob iaith rai miloedd o bwyntiau ffurfio geiriau ac adeiladu brawddegau.
Mae gan bob iaith eirfa enfawr i ddiwallu anghenion ei defnyddwyr – yn achos ieithoedd Ewropeaidd, lle mae geirfa wyddonol a thechnegol yn helaeth iawn, mae hyn yn cyrraedd rhai cannoedd o filoedd o eiriau a brawddegau. Dim ond rhan fach o eirfa cyfan iaith mae siaradwyr unigol yn ei gwybod ac yn ei defnyddio. Gall y geiriau mae pobl ddysgedig yn eu defnyddio – eu geirfa gweithredol – gyrraedd tua 50,000 o eiriau; mae'r geiriau maen nhw'n eu gwybod ond nad ydyn nhw'n eu defnyddio – eu geirfa goddefol – dipyn yn fwy. Mewn sgyrsiau o ddydd i ddydd, mae pobl yn defnyddio nifer fechan o eiriau, ond yn aml iawn. Amcangyfrifwyd bod unigolyn 21 oed eisoes wedi yngan tua 50 miliwn o eiriau. Mae ieithoedd a diwylliannau byw yn newid yn barhaus. Mae pobl yn dylanwadu ar ei gilydd yn y ffordd maen nhw'n siarad ac yn ysgrifennu. Mae cyfryngau newydd, fel y we, yn rhoi cyfleoedd newydd i ieithoedd dyfu. Mae ieithoedd mewn cyswllt â'i gilydd o hyd, ac maen nhw'n effeithio ar ei gilydd mewn llawer o ffyrdd, yn enwedig wrth fenthyg geiriau. Dros y canrifoedd, mae Saesneg, er enghraifft, wedi benthyg geiriau gan dros 350 o ieithoedd, ac ar hyn o bryd mae ieithoedd Ewropeaidd yn benthyg llawer o eiriau Saesneg.
Caffael iaith
Rydyn ni'n cyflawni'r dasg o ddysgu'n mamiaith yn ystod pum mlynedd cyntaf ein bywydau, er bod rhai agweddau ar iaith (fel caffael geirfa) yn digwydd yn barhaus. Mae iaith yn datblygu fesul cam. Yn ystod y flwyddyn gyntaf, mae babanod yn gwneud ystod eang o ynganiadau, ac o'r rhain daw rhythm a phatrymau tonyddiaeth, ac yna'r llafariaid a'r cytseiniaid. Ar ôl tua blwyddyn, caiff y geiriau dealladwy cyntaf eu hyngan. Yn ystod yr ail flwyddyn, daw cyfuniadau dau air, cyn symud yn araf at gyfuniadau tri gair a phedwar gair. Mae plant tair a phedair blwydd oed yn defnyddio brawddegau sy'n mynd yn gynyddol hirach a mwy cymhleth. Mae geirfa'n tyfu o ryw 50 gair gweithredol yn 18 mis oed, i rai miloedd erbyn eu bod nhw'n bum mlwydd oed. Fel arfer, disgrifir y famiaith fel iaith gyntaf unigolyn. Dyma'r iaith mae pobl yn ei hadnabod orau, yr iaith maen nhw'n ei defnyddio fwyaf, neu'r iaith maen nhw'n uniaethu â hi fwyaf. Yn achos rhai pobl ddwyieithog, dysgir dwy iaith mor agos at ei gilydd fel ei bod hi'n amhosib dewis rhyngddyn nhw o ran "iaith gyntaf" ac "ail iaith". I'r mwyafrif o bobl ddwyieithog, fodd bynnag, mae'r gwahaniaeth yn fwy clir, gan iddyn nhw ddysgu'r ail neu'r drydedd iaith yn yr ysgol neu'n hwyrach yn eu bywydau.
Does dim cyfyngiad oed terfynol sy'n atal rhywun rhag dysgu iaith arall. Mae dwyieithrwydd yn ffenomenon gymhleth. Mae myth cyffredin bod gan unigolyn dwyieithog ddwy iaith sydd wedi'u datblygu'n hafal i'w gilydd; mewn gwirionedd, anaml mae cydbwysedd rhwng y ddwy iaith mewn pobl ddwyieithog. Myth arall yw bod pawb sy'n ddwyieithog yr un fath o ran eu gallu; mewn gwirionedd, mae gwahanol fathau o ddwyieithrwydd. Mae rhai pobl yn swnio fel siaradwyr brodorol yn y ddwy iaith; mae gan eraill acen dramor gref mewn un iaith. Gall rhai ddarllen yn dda yn y ddwy iaith; ac mae eraill sy'n gallu darllen un o'r ieithoedd yn unig. Mae well gan rai ysgrifennu mewn un iaith, ond dim ond yn yr iaith arall byddan nhw'n siarad. Mae dwyieithrwydd yn arwain at bob math o fanteision. Gall bod yn ddwyieithog gynyddu eich siawns o ddysgu ieithoedd eraill yn llwyddiannus. Rywsut, caiff dysgu trydedd iaith ei hwyluso gan ddysgu ail iaith. Mae'n bosib bod gan bobl ddwyieithog rywfaint o fanteision o ran meddwl: mae tystiolaeth eu bod yn gwneud cynnydd cyflymach na phobl unieithog mewn meysydd penodol o ddatblygiad gwybyddol cynnar, ac mewn llawer o ffyrdd maen nhw'n fwy creadigol yn eu sgiliau iaith. Mae gan bobl ddwyieithog fantais enfawr o allu cyfathrebu ag ystod ehangach o bobl. Gan fod gan bobl ddwyieithog y cyfle i brofi dau ddiwylliant neu ar lefel fwy personol, gall eu dwyieithrwydd arwain at fwy o sensitifrwydd wrth gyfathrebu, a pharodrwydd i oresgyn rhwystrau diwylliannol er mwyn adeiladu pontydd diwylliannol. Mae hefyd materion ymarferol pwysig: mae gan bobl ddwyieithog fantais economaidd o bosib oherwydd bod mwy o swyddi sydd ar gael iddynt. Caiff hefyd ei dderbyn yn gynyddol fod gan gwmnïau amlieithog fantais gystadleuol dros rai unieithog.
Teuluoedd iaith
Mae ieithoedd yn perthyn i'w gilydd fel aelodau teulu. Gellir grwpio mwyafrif ieithoedd Ewrop at ei gilydd, oherwydd eu tarddiadau cyffredin, fel un teulu iaith mawr Indo-Ewropeaidd. Y teuluoedd yn Ewrop sydd â'r mwyaf o aelod-ieithoedd, a'r mwyafrif o siaradwyr, yw Germaneg, Romáwns a Slafeg.
Mae gan y teulu Germaneg gangen ogleddol yn cynnwys Daneg, Norwyeg, Swedeg, Islandeg a Ffaröeg, ynghyd â changen orllewinol yn cynnwys Almaeneg, Iseldireg, Ffriseg, Saesneg ac Iddeweg. Yn aelodau i'r teulu Romáwns mae Romaneg, Eidaleg, Corseg, Sbaeneg, Portiwgaleg, Catalaneg, Ocsitaneg, Ffrangeg, Románsh, Lladin a Sardeg.
Yn aelodau i'r teulu Slafeg mae ieithoedd fel Rwsieg, Wcraneg, Belarwseg, Pwyleg, Sorbeg, Tsieceg, Slofaceg, Slofeneg, Serbeg, Croateg, Macedoneg a Bwlgareg.
Yn y teulu Celtaidd mae Gwyddeleg, Gaeleg, Cymraeg a Llydaweg, ac mae ymgyrchoedd i adfer Cernyweg a Manaweg yn mynd rhagddynt. Yn y teulu Baltig mae Latfieg a Lithwaneg. Mae Groegeg, Albaneg ac Armeneg yn perthyn i deuluoedd ar wahân, sy'n cynnwys ond un aelod. Mae Basgeg yn achos eithriadol, gan nad yw'n perthyn i deulu Indo-Ewropeaidd ac nid yw ei gwreiddiau'n hysbys.
Mae aelodau o deuluoedd iaith eraill hefyd yn Ewrop. Yn y gogledd mae'r ieithoedd Wralaidd: Ffinneg, Estoneg, Hwngareg, sawl iaith Sámi, ynghyd â ieithoedd bach eraill yn rhannau gogleddol Ffederasiwn Rwsia fel Ingrieg neu Gareleg. Yn y gogledd ddwyrain mae cynrychiolwyr o'r teulu iaith Altäeg, yn benodol Twrceg ac Azerbaijani. Siaredir ieithoedd o'r teulu Cawcasaidd mewn ardal weddol fach a chywasgedig rhwng y Môr Du a Môr Caspia, ac mae ganddo tua 40 o aelodau, gyda Georgeg ac Abkhaz yn eu plith. Mae'r teulu Affro-Asiaidd yn cynnwys Malti, Hebraeg a Berbereg. Mae'r holl ieithoedd hyn yn defnyddio nifer fechan o sgriptiau'r wyddor. Mae'r rhan fwyaf o ieithoedd yn defnyddio'r wyddor Rufeinig (neu Ladin). Mae Rwsieg a rhai ieithoedd Slafeg yn defnyddio Syrilig. Mae gan Groegeg, Iddeweg, Armeneg a Georgeg oll eu sgriptiau eu hunain. Mae ieithoedd nad ydyn nhw'n rhai Ewropeaidd a ddefnyddir ar dir Ewrop yn cynnwys Arabeg, Tsieinëeg a Hindi, ac mae gan bob un ei system ysgrifennu ei hun.
Ieithoedd Ewrop
Mae amcangyfrifon yn amrywio, ond siaredir tua 225 o ieithoedd brodorol. Y pum iaith a siaredir gan y mwyaf o bobl yn Ewrop yw, yn ôl nifer y bobl sy'n eu siarad fel mamiaith, Rwsieg, Almaeneg, Saesneg, Ffrangeg ac Eidaleg. Ond mae'r rhan fwyaf o wledydd Ewrop yn gweithredu'n rheolaidd gyda mwy nag un iaith. Yn eithriadau i hyn mae gwladwriaethau bach fel Liechtenstein a'r Babaeth (Y Fatican), a hyd yn oed yn y lleoedd hynny mae defnydd sylweddol o ail ieithoedd. Mae gan 49 gwladwriaeth Confensiwn Diwylliannol Ewrop 41 o ieithoedd swyddogol neu genedlaethol, ac mae llawer wedi rhoi statws arbennig i ieithoedd eraill. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd lawer o ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol a siaredir yn draddodiadol. Ffederasiwn Rwsia sydd â'r nifer fwyaf o ieithoedd a siaredir ar ei dir o bell ffordd; mae'r nifer yn amrywio o 130 i 200 yn dibynnu ar y meini prawf.
Mae rhai ieithoedd rhanbarthol a lleiafrifol wedi cael statws swyddogol, er enghraifft, Basgeg, Catalaneg a Galiseg yn y rhanbarthau lle cânt eu siarad ar dir Sbaen. Mae gan y Gymraeg hawliau iaith i'w diogelu yng Nghymru, ynghyd â Ffriseg yn yr Iseldiroedd a ieithoedd Sámi yn Norwy, Sweden a'r Ffindir. O achos y mewnlifiad o ymfudwyr a ffoaduriaid o bob rhan o'r byd, mae Ewrop wedi dod yn gynyddol amlieithog. Mae gan Llundain, er enghraifft, dros 300 o ieithoedd a siaredir fel iaith yn y cartref. Mae gan fwyafrif y dinasoedd mwy eraill, yn enwedig yng ngorllewin Ewrop, 100-200 o ieithoedd a siaredir fel mamiaith gan eu poblogaethau ysgol. Mae'r ieithoedd mwyaf cyffredin yn cynnwys Arabeg, Berbereg, Twrceg, Cwrdeg, Hindi, Pwnjabeg a Tsieinëeg. Fodd bynnag, siaredir llawer o'r ieithoedd hyn gan leiafrifoedd bach, ac mae eu dyfodol dan fygythiad. Mae rhyngweithio dyddiol, anffurfiol, ar lafar rhwng rhieni a phlant yn hanfodol er mwyn i iaith oroesi. Mae arbenigwyr wedi amcangyfrif dros y ganrif hon y bydd o leiaf hanner ieithoedd y byd, ac efallai mwy, yn marw. O fewn dwy genhedlaeth, gall holl olion iaith ddiflannu pan na chaiff plant eu magu drwyddi bellach. Mae'r rhesymau dros roi'r gorau i iaith yn amrywio, ac mae'n cynnwys dinistr ffisegol (drwy argyfwng amgylcheddol ac afiechyd) i gymuned neu ei chynefin, gwrthwynebiaeth weithredol gan grwpiau gwleidyddol, ac – yr achos mwyaf cyffredin – goruchafiaeth economaidd a diwylliannol gan ieithoedd mwy pwerus a mawr eu bri. Ond beth bynnag yw'r rheswm, yr un peth yw'r canlyniad: mae dynoliaeth yn colli adnodd unigryw.
Drwy waith Cyngor Ewrop, daeth dau offeryn rhyngwladol pwysig i rym yn 1998. Mae Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop ar waith mewn 25* o aelod-wladwriaethau; Y Confensiwn Fframwaith ar gyfer Amddiffyn Lleiafrifoedd Cenedlaethol sy'n cynnwys rhai darpariaethau i ieithoedd lleiafrifol, ar waith mewn 39* o aelod-wladwriaethau (* cadarnhawyd yn 2010). Mae'r cytundebau hyn yn bwysig er mwyn diogelu a hyrwyddo cyfoeth ieithyddol Ewrop. Ddechrau'r 21ain ganrif, mae holl ddinasyddion Ewrop yn byw mewn amgylchedd amlieithog. Yn eu bywydau bob dydd, mae dinasyddion yn dod ar draws llawer o wahanol ieithoedd, er enghraifft ar fws neu drên, ar y teledu, radio neu mewn papurau newydd, neu gynhwysion ar gynnyrch mewn archfarchnad. Mae angen cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth boblogaidd o amrywiaeth ieithoedd Ewrop, a'r ffactorau sy'n effeithio ar eu cynhaliaeth a'u twf. Mae angen meithrin mwy o ddiddordeb a chwilfrydedd mewn ieithoedd. Mae angen cynyddu goddefgarwch ieithyddol ymhlith cenhedloedd. Dim ond rhai o amcanion Blwyddyn Ieithoedd Ewrop 2001 oedd y rhain, a drefnwyd gan Gyngor Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd. Ar noswyl digwyddiad cloi y Flwyddyn, penderfynodd Pwyllgor Gweinidogion Cyngor Ewrop ddatgan y bydd Diwrnod Ieithoedd Ewrop yn cael ei ddathlu ar 26ain o Fedi bob blwyddyn, gydag amcanion tebyg.